Cefnogwch Yr Awr Gymraeg

Rydym wedi lansio tudalen Patreon lle gallwch chi gefnogi Yr Awr Gymraeg. Mae pob cyfraniad yn cael ei werthfawrogi ac yn ein galluogi i fuddsoddi fwy o amser ac arian i hyrwyddo busnesau, digwyddiadau, cynnyrch a gwasanaethau Cymraeg ar y we, Facebook ac Instagram.

Mae cannoedd o oriau wedi mynd i dyfu cynulleidfa a chyrhaeddiad Yr Awr Gymraeg a’r hashnod #yagym ar Twitter. Mae Facebook dal yn hynod boblogaidd a dylanwadol, mae Instagram yn tyfu fel llwyfan arbennig o effeithiol ar gyfer marchnata a hyrwyddo.

Rydym i gyd yn gyfarwydd erbyn hyn o’r effaith mae’r we yn cael ar y strydoedd mawr a bach. Mae’n hanfodol felly fod y busnesau a sefydliadau Gymraeg yn weladwy ar y we yn enwedig trwy chwilio ar Google. Gallwn helpu gyflawni hyn trwy fuddsoddi ymhellach yn ein gwefan.

Un o lwyddiannau mwyaf Yr Awr Gymraeg yw’r rhwydwaith sydd wedi datblygu o’i hamgylch, gyda’ch cymorth chi gallwn drefnu mwy o weithgareddau o amgylch Cymru yn troi’r rhwydwaith rhithiol yma’n rhwydwaith corfforol, yn dod a phobol at ei gilydd i rannu arferion da a chynnig cymorth ar sut mae defnyddio’r amryw lwyfannau digidol er mwyn budd y gymuned.

Yn wahanol i fentrau eraill nid ydym yn derbyn yr un dime goch gan y llywodraeth, rydym yn cynnig ein hamser ac arbenigedd yn wirfoddol. Yn anffodus yr unig ffordd gallwn gynyddu ein gweithgaredd yw dibynnu ar eich haelioni chi.

Diolch o galon am eich cefnogaeth dros y 6 blynedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at y 6 nesaf.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *