Ein cynnig i chi

Trwy gefnogi esblygiad Yr Awr Gymraeg fe fyddwch cyfoethogi’r dirwedd ddigidol Gymraeg, yn cynyddu’r nifer o bobol sy’n gweld gwybodaeth am gynnyrch, gwasanaethau a digwyddiadau Cymraeg a thrwy hynny helpu dyfu’r economi Gymreig. Mae’r “Punt Gymraeg” a’r potensial i helpu busensau sy’n defnyddio’r Gymraeg i dyfu a chyfrannu i’r economi leol ond mae ganddo hefyd y potensial i annog busnesau mawr i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Rydym eisoes wedi gweld amrywiaeth frandiau amlwg yn defnyddio’r Gymraeg o’r RNLI i Adidas, o Budweiser i’r Leicester Tigers.

Y mwy sy’n gweld yr iaith mwy fydd awydd busnesau a sefydliadau bach a mawr i’w ddefnyddio i farchnata. Gall eich cefnogaeth i ni helpu arwain at newid positif a chynydd yn defnydd y Gymraeg ar-lein.

Ond be gewch chi am gefnogi? Rydym yn cynnig 4 haen o gefnogaeth :

Ffrindiau – $5 y mis – Am bris cwpwl o cappuccinos y mis gallwch helpu ni i dyfu ein presenoldeb ar Facebook ac Instagram. Mae angen gwario i hyrwyddo ein negeseuon yno er mwyn tyfu ein dilyniant.

Busnes Bach – $20 y mis – Am gyfraniad mwy sylweddol fe wnawn greu fideo hyrwyddo misol ar gyfer eich busnes a’i rannu ar eich rhan. Perffaith os ydych yn dechrau allan ag angen codi ymwybyddiaeth yn eich brand.

Am $50 y mis fe gewch chi fwy o fanteision – Addas ar gyfer y busnes fwy sefydlog. Fe wnawn creu proffil ar gyfer eich busnes, gan gynnwys fideo hyrwyddo a’i osod ar ein gwefan, yn ogystal a hyn fe wnawn creu fideo hyrwyddo newydd ar eich cyfer pob pythefnos.

$100 yw ein lefel Aur ac am y gefnogaeth hael yma fe gewch chi proffil gyda amlygrwydd ar ein gwefan sy’n cynnwys fideo hyrwyddo, fe gewch chi hefyd fideo hyrwyddo newydd pob wythnos, ac ar ben hyn fe fyddwn yn cynnwys eich brand yn ein negeseuon hyrwyddo. Dim ond 5 lefel aur byddwn yn ei gynnig er mwyn sicrhau gwerth am eich arian.

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch a helo@yrawrgymraeg.cymru

 

,

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *