Nol yn Nhachwedd 2012 nes i gymryd at twitter a dod ar draws negeseuon gan gyfrif o’r enw the Yorkshire hour, ffrind o Ben-y-bont oedd a diddordebau busnes yn swydd Efrog oedd yn eu rhannu. Oedd y cyfrif yn ail-drydar negeseuon gan fusnesau o’r sir yn hyrwyddo eu cynnyrch a gwasanaethau. Oedd oriau twitter yn bethau newydd ar y pryd, felly dyma fynd ati i ddechrau Awr yn y Gymraeg .

Fel y gwelwch ddim yr amser orau i lansio menter newydd….ond da ni wedi dysgu cryn dipyn am farchnata ar cyfryngau cymdeithasol ers hynny…

Erbyn heddiw mae dros 8,300 yn dilyn y cyfrif, ffigwr ardderchog am gyfrif uniaith Cymraeg. Llynedd yn 2016 nath yr hashnod #yagym cyrraedd 197,251,274 o linellau amser a 9,689,752 o gyfrifon Twitter.

Mae Twitter yn neud dipyn o “comeback,” diolch i ryw raddau i’r drafodaeth o amgylch arlywyddiaeth Donald Trump a newyddion yn gyffredinol….
Felly beth yw gwerth defnyddio’r Gymraeg i farchnata ar gyfryngau cymdeithasol? Mae ein profiad o redeg yr Awr Gymraeg wedi profi bod cwmnïau YN elwa o farchnata yn y Gymraeg, mae tystiolaeth gennym o gwmnïau sydd wedi gwerthu, ennill busnes newydd a thyfu eu dilyniant diolch i awr fach Gymraeg ar Twitter.

Felly gyda phwy mae marchnata yn y Gymraeg yn gweithio? Dim ond 400,000 o Gymry dros 16, y bobol mae’r mwyafrif o hysbysebwyr yn ceisio denu, sydd yng Nghymru… Gwir, ond ychwanegwch y 100,000+ o Gymry sy’n byw dros y ffin a dros y môr a da ni di cyrraedd grŵp o hanner miliwn y gellid eu targedu yn uniongyrchol? Nath ein harolwg o 1,000 o bobol ar twitter dangos bod 85% o bobol yn fwy tebygol o brynu/delio a chwmni oedd yn marchnata yn y Gymraeg. Ychwanegwch i’r garfan yma’r degau o filoedd o’r di Gymraeg sydd wedi gweld y gwerth o roi addysg Gymraeg i’w plant, ac ar ben hyn yr 85% o Gymry a holwyd gan y comisiynydd iaith oedd yn credu bod yr iaith yn rhywbeth y dylid ei drysori…. Yn sydyn reit mae ‘na grŵp o dros 2,000,000 o bobol, rhai yn medru deall y Gymraeg ac eraill medru adnabod taw Cymraeg sydd yn y neges.

Mae neges yn y Gymraeg yn neud i chi sefyll allan ymysg y miloedd o negeseuon Saesneg…..

Er bod Twitter dal i fod yn ofod hyrwyddo bwysig, un gofod ydio, seilo ddigidol sy’n anodd defnyddio i gyrraedd cynulleidfa benodol, er bod yr Awr wedi llwyddo, mae o wedi cymryd lot o amser, gwaith a dyfal barhad…. Felly lle nesa?

Er i bobol sôn bod Facebook yn marw rhyw dwy flynedd yn ôl mae o wedi neud comeback… sut? Wel mae fideo yn rhan fawr o’i lwyddiant diweddar, mae’r rhwydwaith cymdeithasol yn datblygu yn llwyfan darlledu, yn ofod lle mae cynulleidfaoedd yn dewis gwylio cynnwys. Erbyn diwedd 2014 roedd biliwn o sesiynau gwylio’r dydd yn digwydd ar Facebook, erbyn diwedd 2015 oedd y ffigwr wedi cynyddu i 8 biliwn sesiwn gwylio dyddiol. Mae ffigyrau cynnydd syfrdanol S4C mis Rhagfyr yn awgrymu bydd y cynnydd yma ar gyfer 2016 yn fwy fyth.

Mae fwy o bobol yn trigo o fewn Facebook…. Da ni’n gwybod o astudio ystadegau hysbysebu Facebook bod bron i 200,000 cyfrif wedi ticio’r blwch Cymraeg, mae modd targedu cynulleidfaoedd yma ar sail ei hiaith….

Mae S4C wedi profi fod yna cynulleidfa sylweddol yn y Gymraeg ar Facebook.

Er mwyn cymryd yr Awr i’r lefel nesaf da ni am ganolbwyntio fwy o amser ac adnoddau i dyfu ein cynulleidfa a dylanwad ar Facebook, yn ogystal ag ar y we….. Google yw dal y lle cyntaf mae pobl yn mynd at i i chwilio am bopeth….

Felly da ni wedi dechrau ymgyrch ariannu torfol fydd yn ein galluogi i wireddu hyn, os da ni fel Cymru yn dechrau cymryd cyfrifoldeb am bethau a chefnogi mentrau gallwn neud gwahaniaeth, 300 o bobol i gyfrannu £20, dio’m lot i ofyn……

Diolch