Ail gychwyn wedi cyfnod ar gau?

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac mae’r wythnosau nesaf yn debyg o fod yn rhwystredig i nifer ohonom, ond wrth i’r nifer sy’n dioddef o’r haint ddisgyn mae llygedyn o obaith ar y gorwel.

Er mwyn cynorthwyo busnesau a sefydliadau paratoi ar gyfer ail agor, ac i gynnig cymorth cyffredinol i’r rhai ohonoch sydd ddim efallai yn manteisio’n llawn ar rym y byd digidol i hyrwyddo’ch cynnyrch, digwyddiad neu wasanaeth, mae’r Awr Gymraeg am rannu ychydig o syniadau fydd, da ni’n gobeithio, yn eich cynorthwyo i ail afael yn y llyw. Ag i’r rhai sy’n newydd i’r byd o hyrwyddo a marchnata ar-lein yn eich ysbrydoli i fentro i’r byd o hyrwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cadwch lygaid ar ein gwefan a’n cyfrif trydar @yrawrgymraeg am ddiweddariadau.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .